Mae’r prisiau a ddyfynnir yn gywir ar adeg cyhoeddi’r wybodaeth hon ond mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw’r hawl i newid y pris heb rybudd. Cewch wybod y pris terfynol pan fyddwch yn archebu lle.
Gallwch archebu lle am y tro drwy ffonio ein swyddfa. Bydd archeb am y tro yn cael ei dal am 10 diwrnod ac erbyn hyn dylem fod wedi derbyn eich ffurflen archebu. Yna, bydd archeb am draean o’r gost lawn yn cael ei gyrru ichi. Nid oes modd dychwelyd y blaendal hwn. Byddwn yn cadarnhau eich archeb ar ôl i ni dderbyn y ffurflen archebu lle a byddwch yn atebol am y blaendal fydd yn cael ei yrru ichi ar wahan.
Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, neu drwy anfon siec yn daladwy i "Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol"
Dylem dderbyn gweddill yr arian yn y swyddfa archebu 10 wythnos cyn y byddwch yn cyrraedd. Dylech dalu’n llawn am archebion a wneir o fewn 10 wythnos i gyrraedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw’r hawl i ailbennu dyddiadau os na dderbynnir gweddill yr arian 10 wythnos cyn y dyddiad y byddwch yn cyrraedd.
Ar gyfer grwpiau ysgol/coleg yn unig: mae gweddill yr arian yn daladwy wedi i chi dderbyn yr anfoneb a anfonir yn dilyn yr ymweliad.
Bydd canslo yn golygu ffïoedd fel â ganlyn:
|
Mwy na 10 wythnos
|
Blaendal llawn
|
|
O fewn 10 wythnos
|
75% o’r gost gyfan
|
|
Dyddiad cyrraedd
|
Cost lawn
|
Fe’ch cynghorir i drefnu yswiriant canslo.
Blaendal difrod: Gofynnir am flaendal difrod pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd y blaendal yn cael ei ad-dalu o fewn 7 niwrnod ar ôl gadael Craflwyn, os na fydd difrod wedi ei ganfod.
Anifeiliaid anwes:Gan ystyried ymwelwyr eraill ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr adeiladau, fodd bynnag, croesawir cŵn cymorth cofrestredig.
Yswiriant: Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dal Yswiriant Cyfrifoldeb Cyhoeddus safonol, ac mae manylion ar gael ar gais. Bydd hyfforddwyr a thiwtoriaid yn trefnu eu hyswiriant eu hunain fel bo hynny’n addas. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu yswiriant annibynnol. Dylid nodi nad ydych wedi eich yswirio ar gyfer niwed personol, niwed na dwyn eiddo preifat tra yng Nghraflwyn.
Priodasau: Mae yna amodau ychwanegol ar gyfer priodasau. Eglurir yr amodau ychwanegol hyn ar adeg y bwcio.
Am gyngor neu wybodaeth ynglyˆn â’r cyfleusterau sydd ar gael yng Nghraflwyn, ac archebu lle am y tro, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510 120 os gwelwch yn dda. I lwytho ffurflen archebu cliciwch yma
|