2 Ebrill, 2007
Murlun newydd gan blant y fro yn hen gwt gwylwyr y glannau Llŷn
Mae hen Orsaf Gwylwyr y Glannau a saif mewn lleoliad trawiadol ar ben Mynydd Mawr, Llŷn wedi ei adfywio gyda murlun lliwgar newydd a grëwyd gan blant sy’n aelodau o’r Urdd yn Aberdaron. Bydd yr adeilad ar agor o ddydd Sadwrn y Pasg (7fed o Ebrill) ymlaen.
Gyda chymorth yr arlunydd lleol Kim Atkinson, mae’r plant lleol wedi creu murlun sy’n tywys ymwelwyr ar daith o’r rhostir a thros y clogwyni i ddarganfod y cyfoeth o fywyd gwyllt a welir ar y penrhyn gwyllt a hardd hwn sy’n cynnig golygfeydd godidog o Ynys Enlli. Rhoddwyd y project ar waith fel rhan o fenter Cadw’r Lliw yn Llŷn, a darparwyd rhan o’r cymorth ariannol gan Gymdeithas Dyffryn Clwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Man i wylwyr y glannau wylio cychod a llongau am bron i 80 mlynedd oedd hen orsaf gwylwyr y glannau nes i dechnoleg lloeren olygu erbyn 1990 nad oedd angen gwasanaeth o’r fath mwyach. Yn ogystal â dangos gwaith y plant, mae’n gartref hefyd i arddangosfa sy’n egluro pwysigrwydd y rhostir o gwmpas a’r bywyd gwyllt a welir yn y murlun, a sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwarchod y tirlun arbennig hwn.
Mae rhostir arfordirol Llŷn yn un o’r rhai pwysicaf yn Ewrop. Mae’r carped o borffor a melyn yn darparu cynefin cyfoethog i lawer o rywogaethau prinnaf Ewrop, megis y cor-rosyn rhuddfannog, sy’n blodeuo am ddiwrnod yn unig, y bras melyn, gloynnod byw fel y glesyn cyffredin a britheg y gors, y fursen, y frân goesgoch, a chen eurwallt. Ond mae rhostir Llŷn o dan fygythiad difrifol oherwydd y dulliau o’i amaethu a’i reoli. Mae gorbori yn ogystal â lledaeniad llystyfiant wedi cyfrannu tuag at golli 80% o rostir iseldir y DU yn y 150 mlynedd diwethaf.
Mae tîm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ben Llŷn yn gweithio i warchod y rhostir pwysig hwn drwy ailgodi’r cloddiau pridd traddodiadol rhwng caeau er mwyn annog bywyd gwyllt i’r ardal, a thrwy gyflwyno merlod i bori a helpu i reoli’r llystyfiant.
Meddai Richard Neale, Rheolwr Eiddo Llŷn ac Eifionydd: “Rydym wrth ein bodd gyda murlun y plant yn Hen Orsaf Gwylwyr y Glannau ar Fynydd Mawr – mae’n dod â’r amrywiaeth o rywogaethau a geir yma – llawer ohonyn nhw’n brin iawn – yn fyw. Efallai bod rhostiroedd Llŷn yn edrych yn wyllt ond mae angen rheolaeth ofalus arnyn nhw i sicrhau goroesiad eu bywyd gwyllt naturiol. Bydd yr arddangosfa newydd, gobeithio, yn helpu ymwelwyr i sylweddoli mor bwysig ac unigryw yw rhostiroedd hanesyddol Llŷn a’r angen i’w gwarchod ar gyfer y dyfodol.”
25ain Ionawr 2007
GWOBR Y DDRAIG WERDD I GRAFLWYN
Yn ddiweddar derbyniodd Craflwyn gydnabyddiaeth drwy gyrraedd safon lefel 3 y Ddraig Werdd. Dyma deyrnged i waith dygn pawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech ymarferol i leihau ein hôl troed carbon.
Beth yw’r Ddraig Werdd?
Safon 5-cam yw’r Ddraig Werdd a ymgymerir gan gwmnïau a mudiadau sy’n dymuno gwneud gwir ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol.
Sut mae’n cael ei Graddio?
Mae’r pum cam yn olynol fel gwelir isod:
Cam Un Ymrwymiad i Gyfrifoldeb Amgylcheddol
Cam Dau Cydymffurfio gyda deddfwriaeth
Cam Tri Rheoli Effeithiau Amgylcheddol
Cam Pedwar Rhaglen o Reolaeth Amgylcheddol
Cam Pump Gwelliannau Amgylcheddol Parhaus
Drwy sicrhau lefel tri, mae Craflwyn bellach o fewn yr 8% uchaf o’r 882 mudiad sydd ar hyn o bryd wedi ymrwymo i’r cynllun.
Beth Sydd Nesaf ?
Yma yng Nghraflwyn byddwn yn parhau i weithio tuag at gam pedwar drwy weithredu ein polisïau amgylcheddol presennol a sicrhau bod ein staff a’n hymwelwyr i gyd yn ymwybodol o’r angen i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Meddai’r Rheolwr Eiddo Richard Neale: “Rydym yn falch iawn o sicrhau lefel 3 Safon y Ddraig Werdd. Mae’r dull systematig wedi ein helpu i leihau ein gollyngiadau o garbon o 6%, a hyn yn ystod cyfnod pan fo’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r ganolfan wedi cynyddu o 10%.”
I wybod mwy am y Ddraig Werdd ewch i www.greendragonems.com
I wybod mwy ynglyn â sut rydym yn gweithio tuag at ein hamcanion ewch i Bydda'n Wyrdd
|