Cartref     Llety     Gwyliau     Priodasau  Cynhadledd   Digwyddiadau    Gweithgareddau     Newyddion     Cysylltwch  Galeri

Pa mor Wyrdd yw Craflwyn?                                    Gweithgareddau Gwyrdd

Mae pryder am yr amgylchedd yn dylanwadu’n gryf ar ein dulliau o weithredu Craflwyn.  Rhoir anogaeth i’r staff ac i ymwelwyr fod mor ‘wyrdd’ â phosib tra’u bod yma ac ar ôl dychwelyd adref hefyd, gobeithio.

O ganlyniad i’n hymdrechion i fod yn fwy amgylcheddol gyfrifol, derbyniodd Craflwyn gydnabyddiaeth yn ddiweddar drwy sicrhau lefel 3 statws y Ddraig Werdd.  Dyma safon 5 cam a ymgymerir gan gwmnïau a mudiadau sy’n dymuno gwneud gwir ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol.

Am fwy o wybodaeth ar y Ddraig Werdd, cliciwch yma.

O ganlyniad, codwyd yr adeilad gan ystyried y pryderon hyn, ac mae’r gwresogi a’r dwr poeth yn cael eu gyrru gan gyfuniad o adfer gwres , paneli haul ac LPG.  Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod gwres yn cael ei gadw drwy ddefnyddio ‘thermafleece’, gwydr dwbl a thrwy sicrhau bod y lloriau a’r nenfydau i gyd wedi eu inswleiddio’n dda.  Mae’r gwastraff yn cael ei drin gan gwaith trin carthion y neuadd ei hun, a thrwy compostio, ac ailgylchu.

Tra’n ymweld â’r neuadd byddwch yn sicr o sylwi bod y bylbau trydan i gyd yn rhai sy’n arbed ynni, mae’r tapiau i gyd yn dapiau pwyso sy’n gweithio gydag amserydd (gan leihau gwastraff) ac mae’r cynhyrchion glanhau i gyd yn rhai anymosodol.

Rhoir anogaeth i staff yma rannu ceir wrth deithio i ac o’u gwaith.  Rhoir anogaeth hefyd i grwpiau sy’n dod i aros deithio yma gyda chludiant cyhoeddus lle bod hynny’n bosib.  Mae hyn i gyd yn helpu i leihau effaith amgylcheddol y gorddefnydd o geir ac yn lleihau’r ôl troed carbon. Craflwyn.

Tra yng Nhraflwyn, hoffwn i chwi feddwl am effaith yr ydym yn ei gael ar yr amgylchedd. I’ch helpu cael arhosiad ‘gwyrdd’ gyda ni, rydym wedi sefydlu partneriaeth gyda Bikes Beddgelert.  Rydym yn awr yn gallu cynnig pris gostyngol am logi beiciau yn ystod eich ymweliad.Gallwch logi beiciau ynghyd a’r offer diogelwch angenrheidiol ac unrhyw offer sydd ei angen ar gyfer plant bach.

Drwy logi o flaen llaw, gallwch sicrhau y bydd eich beiciau yma yn barod ar eich cyfer.

Gallwch gysylltu â Bikes Beddgelert drwy glicio ar y logo neu drwy ffonio Peter Harding ar 01766 890 434.  Mi fydd yn trefnu cludiant y beiciau a chewch ddisgownt o 10% ar eich archeb.

Os hoffech ddysgu mwy am ein polisi amgylcheddol ac i weld ein cynnydd cliciwch yma

Adfer Gwres

Seilir y system hon ar egwyddor eithaf syml.  Mae’r tymheredd yn ddwfn yn y ddaear yn aros mwy neu lai’n gyson ar 10 i 12 gradd drwy’r flwyddyn.  Claddwyd pibellau yn cynnwys hylif nad yw’n rhewi yn y tiroedd o amgylch y neuadd.  Mae’r hylif hwn yn cynhesu a throsglwyddir y gwres a gesglir i’n pwmp gwres yn y Neuadd sydd, yn ei dro, yn gyrru ein system gwresogi o dan y llawr.  Yna mae’r hylif, wedi iddo oeri, yn dychwelyd i’r ddaear ac mae’r broses yn cael ei hailadrodd.  Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.est.org.uk/myhome/generating/types/groundsource

Paneli Haul

Mae dau banel haul ar do’r neuadd.  Defnyddir yr ynni a gedwir gan y rhain fel ffynhonnell wrth gefn i gynhesu’r dwr poeth sydd ei angen ar ddefnyddwyr y neuadd.  Am ragor o wybodaeth ewch i

http://www.greenenergy.org.uk/sta/solarenergy/content.htm

Thermafleece   

Mae rhannau o’r neuadd wedi ei inswleiddio gan ‘Thermafleece’.Cynnyrch naturiol wedi ei lunio o wlân yw hwn (priodol iawn i’r ardal hon) ac mae iddo briodweddau cadw gwres arbennig sy’n galluogi’r adeilad i gadw gwres yn y gaeaf a pharhau’n lled oer yn ystod yr haf.

Gwaith Trin Carthion

Mae’r neuadd yn berchen ar ei gwaith trin carthion ei hun sy’n gweithredu ar yr un egwyddor â gweithiau masnachol mwy.  Mae 2 siambr, ac mae’r gyntaf yn casglu’r holl wastraff ar ffurf carthion o’r neuadd.  Mae’r ail yn awyru’r gwastraff sydd yna’n gwaddodi.  Cymysgir y gwastraff hylif dros ben gyda dwr arwyneb nes bydd yn cyrraedd safon lle gellir ei ollwng yn gyfreithiol i’r afon.

Compostio

Yn ddiweddar cafodd Craflwyn Rocket composter ar gyfer ei holl anghenion compostio.  Mae gwastraff cegin, rholiau papur toiled, plisgyn wyau, a hyd yn oed y gwastraff papur o’n swyddfeydd i gyd yn cael eu compostio; yna defnyddir y compost ar randiroedd Craflwyn.

Ailgylchu

Byddwn yn ailgylchu cymaint â phosib.  Fel y rhan fwyaf o gartrefi, rydym yn ailgylchu’r holl ddeunyddiau arferol megis papur, gwydr, plastig a chaniau.  Yn y swyddfeydd defnyddir papur wedi ei ailgylchu ac rydym yn ailgylchu’r holl getris inc yn ein cyfrifiaduron a’n hargraffwyr.  Mae hyd yn oed y bagiau te a ddefnyddir yn ein cegin yn mynd i’r compost!  Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.wastewatch.org.uk/

Ôl Troed Carbon

Mesur o’r argraff rydych yn ei gael ar yr amgylchedd yn nhermau’r nwyon ty gwydr yr ydych yn gyfrifol am eu cynhyrchu yw eich hôl troed carbon.  Mae’n cael ei fesur mewn unedau o garbon deuocsid.  Am ragor o wybodaeth ar sut i fesur eich hôl troed carbon, ewch www.carbonfootprint.com

Gwydr Dwbl

Mae’r holl ffenestri yn rhan newydd y neuadd ac yn yr ystafell wydr gyda gwydr dwbl sy’n helpu i leihau colledion gwres diangen.  Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.est.org.uk/myhome/insulation/glazing/

 

 

Gwirfoddolwr yn compostio


Jane yn yr Ystafell Adfer Gwres

 

 

Related Link