Mae Craflwyn yn unigryw. Dyma fan lle gallwch ddianc o fywyd bob dydd. Yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Craflwyn yn cynnig cyfleusterau ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Dathliadau Teuluol
Mae Craflwyn yn lleoliad perffaith ar gyfer aduniad teuluol. Boed yr achlysur yn ben-blwydd, yn briodas neu’n aduniad, mae’r neuadd o’r 19eg ganrif yn cynnig digonedd o le a phreifatrwydd i ddod â phawb ynghyd o dan yr un to. Am ragor o wybodaeth am y cyfleusterau cofiwch edrych ar ein hadran llety.
Gwyliau
Craflwyn yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau yng Ngogledd Cymru. Gall cerddwyr gyrraedd copa’r Wyddfa o ddrws y ty, neu fwynhau crwydro’n hamddenol ar rai o lwybrau troed niferus y stad. O fewn ychydig o filltiroedd mewn car mae cestyll, traethau ac amrywiaeth o atyniadau eraill. Ym mhentref tlws Beddgelert gerllaw mae siopau, caffis, tafarnau a bistros.
Priodasau
Mae priodasau yng Nghraflwyn ychydig bach yn wahanol. Gallwch logi’r neuadd am 24 awr gan wybod mai dim ond y chi fydd yno ar y diwrnod mawr. Gallwch drefnu i gynnal y seremoni yma yn ogystal â’r brecwast a gall eich cyfeillion a’ch teulu aros ar y safle. Am fanylion ynglyn â sut allwn helpu i greu diwrnod bythgofiadwy i chi, cofiwch edrych ar ein tudalen priodasau.
Gwirfoddoli
Hoffech chi dreulio’ch amser yn yr awyr agored? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghraflwyn. Rydym hefyd yn gweithredu rhaglen lawn o wyliau gwaith bob blwyddyn lle gallwch helpu gyda’n gwaith cadwraeth yn Eryri tra’n cyfarfod cyfeillion newydd a chrwydro’r ardal.
Tra byddwch yng Nghraflwyn byddwn yn eich annog i ‘Bydda'n Wyrdd’ a’n helpu ni yn ein hymdrechion i leihau ein ôl-troed amgylcheddol. Beth bynnag y byddwch yn ei wneud yn y Ganolfan byddwch hefyd yn ein helpu i ofalu am 20,000 erw o fynydd-dir, rhostir ac arfordir. Mae’r holl elw o weithredu Craflwyn yn mynd tuag at waith cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.
Cliciwch yma am gyfarwyddiadau o syt i gael hyd inni.
|