Cartref     Llety   Priodasau  Cynhadledd   Digwyddiadau  Bydda'n Wyrdd  Gweithgareddau     Newyddion     Cysylltwch   Galeri

Dathlu, Mwynhau’r Cyffro, Ymlacio

Craflwyn yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer dathliad teuluol, boed hwnnw’n ben-blwydd arbennig, yn ben-blwydd priodas neu’n gyfle i roi’r byd yn ei le efo’r teulu neu ffrindiau.  Mae’r 8 ystafell wely yn y Neuadd a’r llety ychwanegol yn yr hafod yn golygu bod modd i’r teulu i gyd aros gyda’i gilydd mewn un man.  Mae’r gegin yn llawn offer ar eich cyfer neu gallwn drefnu i arlwywyr alw draw i baratoi eich pryd tra’n dathlu.

Mae safle Craflwyn yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n mwynhau’r awyr agored.  Saif yng nghanol dyffryn hardd Nantgwynant, a cheir golygfeydd bendigedig ar bob tu.  Ceir llwybrau cerdded godidog ar garreg y drws a fydd yn eich tywys drwy goedlannau ac heibio rhaeadrau i’r bryniau a’r mynyddoedd.  Bydd ein staff yn falch o gymeradwyo unrhyw lwybr ar gyfer gwahanol lefel o allu!  Cewch gipolwg ar ein llwybrau hefyd ar ein tudalen teithiau cerdded.  Ymysg y gweithgareddau lleol eraill sydd ar gael mae marchogaeth, dringo a chanwio.

Cliciwch yma am fanylion llety a phrisiau.

 

Gwyliau Gwaith

“Dyma’r amser gorau i mi gael erioed tra’n cadw’n heini.  Bwyd da a dysgu medrau newydd yn y wlad gyda phobl â’r un diddordeb.”

Mae gwyliau gwaith yn cynnig hwyl, ansawdd, a’r ymdeimlad o fod wedi medru cyflawni rhywbeth.  Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i gefn gwlad drwy ymgymryd ag amrywiaeth o orchwylion cadwraeth dan oruchwyliaeth.  Ar yr un pryd gallwch fwynhau un o dirluniau mwyaf trawiadol gwledydd Prydain.

Fe fydd gweithgareddau’r wythnos yn ddibynnol ar ba wyliau a ddewiswch. Mae rhai yn cynnwys gorchwylion amgylcheddol ymarferol. I rai eraill, fe fydd thema neu ffocws, ac felly fe fydd eich gweithgareddau yn canolbwyntio ar gwblhau project arbennig. Pa bynnag wyliau a ddewiswch, fe fyddwch yn profi’r boddhad o weithio mewn tîm i gwblhau gorchwyl gwerth chweil, gan ddysgu medrau newydd yn aml wrth i chi weithio ochr yn ochr â’n tim cefn gwlad profiadol.

Gall Craflwyn gynnig dau fath o lety ar gyfer y gwyliau gwaith.  Mae’r sawl ddaw ar y gwyliau cyffredin yn aros yn yr hafod, sydd â nifer o welyau mewn un ystafell.  I’r rhai hynny sydd yn mwynhau dipyn bach o foethusrwydd, gallwch aros yn y Neuadd mewn ystafell dau wely ac en-suite os dewiswch y gwyliau premiwm.

Am fanylion y gwyliau gwaith, cysylltwch â swyddfa archebu gwyliau gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 08704 292429 neu ymwelwch â’r wefan:- Gwyliau Gwaith.

Erthygl papur newydd am wyliau gweithio wedi ei leoli yng Nghraflwyn.


 

Related Link