Cartref HERYRI

Gweithgareddau

Cyfleusterau

Pecynnau

Pwy 'di pwy

Cyfeiriadau

Dogfennau

Cysylltwch â ni  

 

Galeri

Cyswllt

Cartref Craflwyn

 

 

 

Ein Cymuned                                                                                                               Saesneg/English

Mae’r synnwyr o gymuned yn rhan annatod o fywyd Heryri.  Rydym i gyd â sgiliau unigryw, y pethau'r rydym yn dda ynddo, a’r hyn y gallem gyfrannu tuag at i wneud ein cymunedau’n fannau gwell i fyw.

Os yw Heryri’n datblygu a chael ei redeg gan y staff yn unig, yna bydd y prosiect yn datblygu yn y modd yr hoffwn ni ei weld.  Felly er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cynnig profiadau gwerthfawr i bawb mae’n hanfodol fod cymaint o bobl â phosibl yn cynnig eu syniadau, eu momentwm a’u llafur i’w ddatblygiad.  Hynny yw, ni yn Heryri, chi ein cwsmeriaid, eich athrawon a’ch arweinwyr, a phobl eraill sydd yn byw o fewn y gymuned ble lleolir Heryri.

Felly pan fyddwch yn aros gyda ni, fe ddarparwn i'r fframwaith ond mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i warantu fod y profiad yn gweithio ac yn datblygu.

Mae’n bwysig fod Beddgelert, y gymuned yr ydym yn rhan ohoni yn teimlo synnwyr o berchnogaeth tuag at Heryri yn ogystal.   Mae gennym berthynas wych gyda’r Ysgol Gynradd leol sydd yn ein cynorthwyo gyda’r berllan/gardd llysiau a pherlysiau, ond ein deheuad yw datblygu cysylltiadau anhepgor gyda’r gymuned gyfan.