Priodasau
Craflwyn yw'r man perffaith as gyfer cynnal priodas. Ceir yma le trawiadol ac anffurfiol ar gyfer diwrnod pwysicaf eich bywyd. Cewch gynnal eich gwasanaeth neu'r derbyniad yn unig. Gall eich gwesteion aros ar y safle a sicrheir preifatrwydd gan mai y chi fydd yr unig rai yn y Neuadd.
Mae cyfleon gwych ar gyfer lluniau, yn y Neuadd ac yn y tiroedd cyfagos. Yn yr haf gall eich gwesteion fwynhau diodydd ar y feranda, tra'n mwynhau golygfeydd prydferth o Nangwynant. Yn y gaeaf gallent fwynhau nifer o dannau wrth i foncyffion pren losgi.
Gallwn roi manylion nifer o arlwywyr sy'n paratoi amrediad eang o brydau gwhanol. Os y dymunwch gallwch drefnu arlwywyr eich hunain neu ddibynnu deulu a ffrindiau.
Manylion
Gallwch ddefnyddio'r ystafell weithgareddau fel a ganlyn:-
70 o bobol ar gyfer y gwasanaeth priodas
66 o bobol yn eistedd a bwyta
140 o bobol yn sefyll a bwyta
Mae llefydd i 14 o bobol i aros yn y Neuadd. Gall 12 arall aros yn yr Hafod.
Prisiau - 2008
Defnydd y Neuadd am 24 awr yn cynnwys y gwasanaeth a'r/neu'r derbyniad - £1500
Defnydd y Neuadd am 24 awr ychwanegol - £395
Yn cynnwys 14 set o ddillad gwlâu
Prisiau - 2009
Defnydd y Neuadd am 24 awr yn cynnwys y gwasanaeth a'r/neu'r derbyniad - £2000
Defnydd y Neuadd am 24 awr ychwanegol - £395
Yn cynnwys 14 set o ddillad gwlâu
Prisiau - 2010
Defnydd y Neuadd am 24 awr yn cynnwys y gwasanaeth a'r/neu'r derbyniad - £2500
Defnydd y Neuadd am 24 awr ychwanegol - £395
Yn cynnwys 14 set o ddillad gwlâu
Am wybodaeth am wasanaethau sifil ffoniwch Mrs Pritchard, y Cofrestrydd Arolygol - 01758 704078.
Cyflenwir gwahoddiadau, cacennau, cerddoriaeth, a blodau gan Cwlwm, cwmni gwasanaethau priodasol cydweithredol, sydd o fewn 30 munud i Graflwyn. Ffoniwch 01690 770333 am fanylion.
Am gyngor a gwybodaeth ynglŷn â chynnal eich priodas yn Craflwyn ac i
archebu lle, cysylltwch â’n swyddfa ar 01766 510120. I lwytho ffurflen archebu cliciwch yma.
Cliciwch yma i weld lluniau o Craflwyn
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig lleoliadau eraill yn ogystal â Chraflwyn ar gyfer priodasau. Am fanylion gweler www.nationaltrust.org.uk/weddinghireinwales

|