Newyddion
Mawrth 12 2009
WALIAU SYCH
Byddwn yn cynnal cyfres o ddyddiau hyfforddi i addysgu a datblygu sgiliau codi waliau sych. Mi fydd y sesiynau yma yn cael eu cynnal yn Egryn ger Talybont ar y dyddiau
canlynol :-
Dydd Mercher 8fed a Dydd Iau 9fed Ebrill 2009
Dydd Mercher 13eg a Dydd Iau 14eg Mai 2009
Dydd Mercher 10fed a Dydd Iau 11eg Mehefin 2009
Cost am y ddau ddiwrnod £60. Dim ond 10 lle ar gael, felly i osgoi siomedigaeth archebwch le nawr ar 01766 510129
Mawrth 9 2009
BLAS AR Y TYMHORAU YNG NGHRAFLWYN
Wyddoch chi o ble daeth y bwyd sydd ar eich plât? Allwch chi fod yn siŵr o’i hanes? Fel rhan o ymgyrch i annog pobl i brynu eu bwyd o ffynonellau lleol, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal cyfres o weithdai coginio tymhorol yn ardal Gorllewin Eryri a Llŷn. Fe gynhelir y cyntaf o’r rhain yn Neuadd Craflwyn, y tu allan i Feddgelert ar Fawrth 24.
Bydd Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru’n coginio’n anturus gan ddefnyddio cynnyrch lleol i greu bwyd cyffrous ar gyfer y Gwanwyn.
Meddai Richard Neale, rheolwr eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardal ‘’Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Hybu Cig Cymru ar y prosiect hwn. Yn y cyfnod yma o argyfwng economaidd mae’n bwysig gallu dangos i bobl sut y gallant gefnogi eu heconomi leol. Mae gan Elwen syniadau ardderchog i’w rhoi i chi felly rwy’n siŵr y bydd yn noson hwyliog i bawb.”’
Fe gynhelir gweithdai pellach drwy gydol y flwyddyn a byddant yn cynnwys bwydydd sy’n defnyddio cynhwysion sy’n lleol i ardaloedd arbennig fel y cig cranc llwyddiannus gan Aberdaron Seafoods.
Bydd y noson yn cychwyn am 7, mynediad yn £4.00 i gynnwys lluniaeth ysgafn a gwydraid o win. Tocynnau ar gael o swyddfa’r eiddo ar 01766 510120. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cofiwch fwcio’n gynnar.
|