| Y lleoliad perffaith ar gyfer eich pwyllgor neu gynhadledd
Craflwyn yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddiant neu ddyddiau arbennig i fusnesau. Mae’r ganolfan gynadledda a gweithgareddau sydd â phob math o adnoddau yn cynnig hyblygrwydd yn ogystal â gwerth eich arian. Bydd pob cwsmer yn derbyn gwasanaeth unigol gan ein tim i sicrhau pecyn o’r safon gorau sy’n ateb eich gofynion.
Rydym yn ymwybodol bod bwyd da yn hanfodol bwysig i unrhyw ddigwyddiad busnes. Rydym yn cydweithio gyda nifer o arlwywyr ardderchog a fydd yn paratoi bwydlenni yn ôl eich anghenion penodol.
Atgyweiriwyd y ganolfan hon, a saif mewn lleoliad hyfryd, yn ofalus. Ymgorfforir llawer o’r nodweddion amgylcheddol mwyaf diweddar gan gynnwys gwresogi gyda’r haul, inswleiddio â gwlân a chryn ddefnydd o ddeunyddiau lleol a naturiol. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein ôl-troed amgylcheddol yma a byddwn yn cynnig gostyngiad i grwpiau sy’n cyrraedd gyda chludiant cyhoeddus.
Mae aros yn Neuadd Craflwyn sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn brofiad ynddo’i hun ac mae yma amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod a seminar, pob un â’i gymeriad unigryw ei hun. Gallwch ddefnyddio ein 2 ystafell seminar awyr agored neu ein ystafell haul i sicrhau’r budd mwyaf o’r tirlun hardd o gwmpas yn ystod eich sesiynau hyfforddi.
Defnyddir yr holl elw o ddigwyddiadau busnes a gynhelir yng Nghraflwyn i ariannu ein gwaith cadwraeth yn Eryri. Os ydych yn chwilio am rhywbeth gwahanol i’w wneud gyda’ch tîm gallwn drefnu gorchwylion cadwraeth ar gyfer grwpiau. Gallwn gynnig gweithgareddau creu tîm a fydd yn sicr o gael dylanwad ar bawb fydd yn cymryd rhan. Ffoniwch am ragor o fanylion.
Llety
Mae’r adnoddau sydd ar gael yng Nghraflwyn yn cynnig hyblygrwydd o ran llety. Gallwn lunio pecyn a fydd yn briodol i anghenion a chyllideb penodol eich grwp.
Mae llety ar gael yn y neuadd Fictoraidd a atgyweiriwyd yn ddiweddar, ac mae lle i 14 gysgu yma mewn 8 ystafell, y mwyafrif ohonynt yn en-suite.
Mae’r hafod, sydd wedi’i lleoli yn yr hen stablau, yn darparu llety i 12 o bobl ychwanegol.
Am gyngor neu wybodaeth am y cyfleusterau a gynigir yng Nghraflwyn ac i archebu lle, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510120. I lwytho ffurflen archebu i lawr cliciwch yma.
|