| Arweinyddion Treftadaeth Ifanc Cyflwyniad i'r gwyliau
Awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd?
Am ddim!
Mae arweinyddion Treftadaeth Ifanc yn gwrs cyffrous sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn partneriaeth â CRAC (Cyngor Ymgynghorol Ymchwil Gyrfaoedd).
Mae’r cwrs yn edrych ar bob agwedd ar waith tîm o fod yn aelod effeithlon o dîm i ddod yn arweinydd tîm effeithlon.
O gwblhau sialensiau tîm i arwain tasgau cadwraeth ymarferol drwy gyfres o sialensiau dan do ac yn yr awyr agored, fe gewch ddigon o gyfle i ymarfer y sgiliau y byddwch yn eu hennill ar y cwrs ac a fydd o ddefnydd mawr i chi drwy gydol eich bywyd yn y dyfodol.
Ar ddiwedd y cwrs fe fyddwch yn ystyried eich profiadau ac fe gaiff eich sgiliau newydd eu cydnabod gyda dyfarniad Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefel dau mewn arwain tîm.
Fe fyddwch yn cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan Gymunedol Talysarn, fe fydd rhai sesiynau’n aros yno ac fe dreulir y lleill allan yn yr ardal o gwmpas ar deithiau tywys ac yn ymgymryd â thasgau cadwraethol ymarferol.
I gwblhau’r cwrs fe allwch brofi eich sgiliau newydd go iawn pan fyddwch yn arwain Dyddiau Profi Gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc eraill o’r ardal.
Fe fydd y profiadau a enillwch chi’n eich gwneud yn fwy cyflogadwy a bydd yn ychwanegiad trawiadol i’ch CV ar gyfer ceisiadau coleg a Phrifysgol.
Ac mae’r cyfan am ddim!! Fe allwn hefyd dalu eich costau teithio (cyfradd cludiant cyhoeddus)
Dim ond lle i 15 sydd yna ar y cwrs felly bwciwch yn awr i neilltuo lle.
Fe fydd yna ddwy sesiwn wybodaeth yn y Ganolfan Gymunedol yn Nhalysarn ar ddydd Mercher 8fed a dydd Sadwrn 11eg o Orffennaf am 2pm.
I gael gwybodaeth bellach ac i fwcio lle ar y cwrs cysylltwch â Jenni Clegg ar 01766 510 124 neu jenni.clegg@nationaltrust.org.uk
|