Cyfarfodydd a Cynhadleddau Prisiau Cyfarfodydd a Cynhadleddau
Lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad busnes
Craflwyn yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi neu ddyddiau i ffwrdd ar gyfer busnes. Mae’r ganolfan gynadledda a gweithgareddau sydd ag adnoddau llawn yn cynnig hyblygrwydd a gwerth am arian ardderchog. Bydd pob cleient yn cael gwasanaeth unigol gan ein tîm i sicrhau’r pecyn gorau y gellid ei deilwra.
Mae aros yn Neuadd Craflwyn yn brofiad ynddo’i hun gydag amrywiaeth o ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a seminarau, pob un â’i chymeriad unigryw ei hun. Gallwch ddefnyddio’r ddwy ystafell seminar awyr agored neu’r ystafell haul i fanteisio’n llawn ar yr amgylchedd syfrdanol yn ystod eich sesiynau hyfforddi.
Neu, ar gyfer digwyddiadau llai yn y dydd neu’r nos mae gennym ystafell gyfleus Canolfan Deilen Las, melin lifio sydd wedi ei throsi ac sydd wedi ei lleoli’n gyfleus wrth y maes parcio.
Gwyddom fod bwyd da yn hanfodol i unrhyw ddigwyddiad busnes. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o arlwywyr ardderchog a fydd yn llunio bwydlenni ar gyfer eich anghenion penodol.
Mae’r ganolfan yn ymgorffori llawer o’r nodweddion amgylcheddol diweddaraf yn cynnwys gwres solar, inswleiddiad gwlân a defnydd cydymdeimladol o ddefnyddiau lleol a naturiol. Rydym yn ymroddedig i leihau ein hôl troed amgylcheddol yng Nghraflwyn ac fe roddwn ddisgownt i grwpiau sy’n cyrraedd ar gludiant cyhoeddus.
Faint all ddod?
Mae yna gyfleusterau busnes yn y Neuadd ar gyfer:
- 70 o bobl ar ddull theatr
- 40 o bobl ar ddull ystafell fwrdd
- Os gofynnol, llety dros nos i 14 mewn 8 o lofftydd
Gall Canolfan Deilen Las ddarparu cyfleusterau busnes ar gyfer:
- 35 o bobl ar ddull theatr
- 20 o bobl ar ddull ystafell fwrdd
Mae’r Neuadd a Chanolfan Deilen Las yn cynnig: :
- Mynediad i gadair olwyn a dolen glywed yn y brif ystafell bwyllgor
- Defnydd o siartiau troi, taflunydd digidol a sgrin
Llety
Mae’r adnoddau sydd ar gael yng Nghraflwyn yn cynnig hyblygrwydd o ran llety. Gallwn lunio pecyn a fydd yn briodol i anghenion a chyllideb penodol eich grwp.
Mae llety ar gael yn y neuadd Fictoraidd a atgyweiriwyd yn ddiweddar, ac mae lle i 14 gysgu yma mewn 8 ystafell, y mwyafrif ohonynt yn en-suite.
Mae’r hafod, sydd wedi’i leoli yn yr hen stablau, yn darparu llety i 12 o bobl ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth am aros gweler y dudalen Llety
Am gyngor neu wybodaeth am y cyfleusterau a gynigir yng Nghraflwyn ac i archebu lle, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510120. I lwytho ffurflen archebu i lawr cliciwch yma. |