Cartref

Cyflwyniad

Manylion Llety

Prisiau llety 

Gwirfoddolwyr

Gwyliau Gwaith

Arweinyddion Treftadaeth Ifanc

Priodasau

Cyfarfodydd a Cynhadledydd

Digwyddiadau

Taith a Gweithgareddau

Galeri

Bydda'n Wyrdd

Cysylltwch

Cysylltiadau

HERYRI

 


Telerau ac amodau bwcio
                                               Manylion llety                         Prisiau llety

Mae’r prisiau a ddyfynnir yn gywir ar adeg cyhoeddi’r wybodaeth hon ond mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw’r hawl i newid y pris heb rybudd. Cewch wybod y pris terfynol pan fyddwch yn archebu lle.

Gallwch archebu lle am y tro drwy ffonio ein swyddfa. Bydd archeb am y tro yn cael ei dal am 10 diwrnod ac erbyn hyn dylem fod wedi derbyn eich ffurflen archebu.  Yna, bydd archeb am draean o’r gost lawn yn cael ei gyrru ichi. Nid oes modd dychwelyd y blaendâl hwn. Byddwn yn cadarnhau eich archeb ar ôl i ni dderbyn y ffurflen archebu lle a byddwch yn atebol am y blaendâl fydd yn cael ei yrru ichi ar wahan.

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, neu drwy anfon siec yn daladwy i "Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol"

Dylem dderbyn gweddill yr arian yn y swyddfa archebu 10 wythnos cyn y byddwch yn cyrraedd. Dylech dalu’n llawn am archebion a wneir o fewn 10 wythnos i gyrraedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw’r hawl i ailbennu dyddiadau os na dderbynnir gweddill yr arian 10 wythnos cyn y dyddiad y byddwch yn cyrraedd.

Ar gyfer grwpiau ysgol/coleg yn unig:  mae gweddill yr arian yn daladwy wedi i chi dderbyn yr anfoneb a anfonir yn dilyn yr ymweliad.

Bydd canslo yn golygu ffïoedd fel â ganlyn:

Mwy na 10 wythnos         

Blaendâl llawn

O fewn 10 wythnos

75% o’r gost gyfan

Dyddiad cyrraedd

Cost lawn

Fe’ch cynghorir i drefnu yswiriant canslo.

Blaendal difrod: Gofynnir am flaendal difrod pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd y blaendâl yn cael ei ad-dalu o fewn 7 niwrnod ar ôl gadael Craflwyn, os na fydd difrod wedi ei ganfod.

Anifeiliaid anwes:Gan ystyried ymwelwyr eraill ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr adeiladau, fodd bynnag, croesawir cwn cymorth cofrestredig.

Yswiriant: Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dal Yswiriant Cyfrifoldeb Cyhoeddus safonol, ac mae manylion ar gael ar gais.  Bydd hyfforddwyr a thiwtoriaid yn trefnu eu hyswiriant eu hunain fel bo hynny’n addas. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu yswiriant annibynnol. Dylid nodi nad ydych wedi eich yswirio ar gyfer niwed personol, niwed na dwyn eiddo preifat tra yng Nghraflwyn.

Priodasau: Mae yna amodau ychwanegol ar gyfer priodasau. Eglurir yr amodau ychwanegol hyn ar adeg y bwcio.

Am gyngor neu wybodaeth ynglyˆn â’r cyfleusterau sydd ar gael yng Nghraflwyn, ac archebu lle am y tro, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510 120 os gwelwch yn dda. I lwytho ffurflen archebu cliciwch yma