Cartref

Cyflwyniad

Llety

Gwirfoddolwyr

Gwyliau Gwaith

Arweinyddion Treftadaeth Ifanc

Priodasau

Cyfarfodydd a Cynhadleddau

Digwyddiadau

Taith a

Gweithgareddau

Galeri

Bydda'n Wyrdd

Cysylltwch

Cysylltiadau

HERYRI


Prisiau Cyfarfodydd a Cynhadleddau  2010 
                       Cyfarfodydd a Cynhadleddau

Neuadd

Mae’n strwythur prisio yn hyblyg iawn. Codwn un pris am logi’r Neuadd. Cewch chi benderfynu sawl person i gynnwys

Pris 24 awr - £440

Mae’r pris hwn yn cynnwys llwyr ddefnydd o’r Neuadd 19eg ganrif gan gynnwys 8 llofft, ystafel gyfarfod, ystafell fyw, y llyfrgell, ystafell gyfarfod fechan a’r ystafell wydr. Mae’r pris hefyd yn cynnwys defnydd o’r siarteri fflip, y taflunydd a’r offer eraill.

Sylwer bod ein cyfleuster yn cael eu gosod heb llieiniau/ddillad gwely.   Gwelâu wedi eu paratoi ar eich cyfer:  £10.00 yr un

Codir pris dyddiol o £37 y pen am frecwast, paned ganol bore, cinio, te prynhawn a chinio nos 3 cwrs

Pris 8 awr -   £200

Mae’r pris hwn yn cynnwys llwyr ddefnydd o’r ystafell gyfarfod ynghyd â’r ystafelloedd bychain eraill ar lawr gwaelod y Neuadd. Mae’r pris hefyd yn cynnwys defnydd o’r siarteri fflip, y taflunydd a’r offer eraill.

Canolfan Deilen Las


Yn ogystal â’r neuadd o’r 19eg ganrif, mae gennym hefyd adnodd ychwanegol wrth ymyl y maes parcio sy’n benodol ar gyfer cynnal cyfarfodydd yn ystod y dydd.  Mae yma ystafell gyfarfod fawr, ystafell lai a chegin, sy’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau o hyd at 20.

£90 y diwrnod, £60 am hanner diwrnod sy’n cynnwys y defnydd o daflunydd digidol, siartiau troi ayyb. Codir tâl ar wahân am de a choffi.  


Gweithgareddau awyr agored


Holwch am brisiau - yn dibynnol ar anghenion.

Gwasanaethau staff arbenigol yr YG


I arwain gorchwylion gwaith, teithiau gyda thywysydd o amgylch y meddiant, ayyb £125 y dydd, £65 am hanner diwrnod neu sesiwn gyda’r nos

Prisiau yn cynnwys TAW ac yn berthnasol i leiafswm o 6 person.

Am gyngor neu wybodaeth am y cyfleusterau a gynigir yng Nghraflwyn ac i archebu lle, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510120.  I lwytho ffurflen archebu i lawr cliciwch yma.