Llety Prisiau llety Telerau ac amodau bwcio
Mae Canolfan Craflwyn yn darparu amrywiaeth hyblyg o ran llety. Gallwch ddewis aros yn y Neuadd, a arferai fod yn ganolfan hela Fictoraidd, neu yn yr hafod, neu gyfuniad o'r ddau.
Dewch i fwynhau’r lleoliad hardd wrth droed Yr Wyddfa ac i grwydro’r goedlan naturiol hynafol.
Mae pentref Beddgelert gerllaw, a saif yng nghanol y mynyddoedd, yn ganolbwynt i deithiau cerdded mynyddig a lefel isel. Ceir amrywiaeth eang o atyniadau o fewn tafliad carreg ac at ddant pawb: traethau, tai hynafol, gerddi, safleoedd archeolegol a daearegol a llawer mwy. Mae ein staff bob amser yn barod i’ch cyfeirio at y mannau hyn.
Llety
Mae llety ar gael yn y Neuadd o’r 19eg ganrif a atgyweiriwyd yn ddiweddar, ac mae lle i 14 gysgu yma. Mae llawer o’r wyth ystafell wely yn en-suite. Yn ogystal â’r ystafelloedd gwely, mae yma ystafell gyfarfod/fwyta fawr, llyfrgell, ystafell wydr ac ystafell sychu. Mae tân agored yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd i lawr y grisiau.
Mae’r hafod, sydd wedi’i lleoli yn yr hen stablau, yn darparu llety i 12 o bobl mewn ystod o ystafelloedd ar wahân. Mae yma lolfa, cyfleusterau ar ffurf cegin/ystafell fwyta ac ystafell sychu ar wahân.
Mae llety ar gael ar sail hunan arlwyaeth: neu cysylltwch â ni i drefnu arlwyaeth yn ôl eich anghenion.
Am gyngor neu wybodaeth am y cyfleusterau a gynigir yng Nghraflwyn ac i archebu lle, ffoniwch ein swyddfa ar 01766 510120. I lwytho ffurflen archebu i lawr cliciwch yma.
Hefyd wedi ei leoli ar y safle mae Bwthyn Mai, bwthyn gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am fanylion pellach am y bwthyn ac i’w archebu cysylltwch gyda’r adran bythynnod gwyliau drwy ffonio 0870 4584422 neu ewch i www.nationaltrustcottages.co.uk
Am fanylion am fythynod gwyliau a thai byncws eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri cliciwch yma
Lleolir Gwersyll Hafod y Llan ar fferm Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oddeutu 3 milltir o Craflwyn. Mae'r gwersyll ger nant fynydd wrth droed Yr Wyddfa, lle delfrydol ar gyfer crwydro'r ardal a Llwybr Watkin. Prynwyd Hafod y Llan trwy roddion cyhoeddus, rheolir y fferm er mwyn gwella'r tirwedd, y natur cadwriaethol yn ogystal ai gwerth mwynderol tra hefyd yn diogelu lles economaidd yr ardal trwy ffermio'n draddodiadol. Am fwy o wybodaeth ynglyn a gwersylla yn Hafod y Llan cliciwch yma.
|