Gwyliau Gwaith
Gwyliau sy’n siwtio’r boced a’r amgylchedd
Rydym yn gweithio i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe wyddom fod llawer o’n gwirfoddolwyr yn bryderus am eu heffaith hwy ar yr Amgylchedd. Rydym yn datblygu cynnyrch i leihau’r defnydd o ynni a dwr, yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd lleol, yn hyrwyddo teithio gwyrdd ac ailgylchu. Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni yn ein hymdrechion ar Wyliau Gwaith.
Mae Gwyliau Gwaith y’n cynnig cyfle unigryw i gyfarfod â phobl newydd, i ddarganfod ardal newydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu i amddiffyn y cynefinoedd bregus a hardd y mae’r Ymddiriedolaeth yn eu diogelu ar gyfer y genedl.
Mae gweithgareddau’r wythnos yn dibynnu ar y gwyliau a ddewiswch, o godi waliau cerrig sychion i waith ar lwybrau, o glirio Rhododendron i blannu coed, rydych yn siwr o gael digon o awyr iach ac fe ddysgwch sgiliau newydd. Mae yna wyliau diddordebau arbennig yn cwmpasu ffotograffiaeth, adeiladu yurt ac un ar ein fferm organig. Byddwn hefyd yn cynnal Gwyliau Darganfod i Ieuenctid ar gyfer y rheiny sy’n 16-19 oed.
Ein menter newydd gyffrous ar gyfer 2009 yw Gwyliau Gweith i’r Teulu ar gyfer dau oedolyn a hyd at dri plentyn.
Fe ddarperir y bwyd i gyd ar y gwyliau ac fe’i paratoir yn ffres bob nos gan eich cyd-wirfoddolwyr gan ddefnyddio bwyd tymhorol lleol cyn belled ag sydd bosib.
Mae yna ddau fath o lety ar gael yng Nghraflwyn ar gyfer gwyliau gweithio, yr arhosiad safonol yn y byncws, gyda llety ar steil ‘dormitory’ ac i’r rheiny sy’n hoff o’u cyfforddusrwydd bydd y gwyliau premiwm yn aros yn y Neuadd sydd, gan fwyaf, ag ystafelloedd en-suite i ddau.
Am fanylion y gwyliau gwaith, cysylltwch â swyddfa archebu gwyliau gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 08704 292429 neu ymwelwch â’r wefan:- Gwyliau Gwaith.
Erthygl papur newydd am wyliau gweithio wedi ei leoli yng Nghraflwyn.
|