Cartref

Cyflwyniad

Llety

Gwyliau Gwaith

Arweinyddion Treftadaeth Ifanc

Priodasau

Cyfarfodydd a Cynhadledydd

Digwyddiadau

Taith a Gweithgareddau

Galeri

Bydda'n Wyrdd

Cysylltwch

Cysylltiadau

HERYRI

 


Gwirfoddolwyr

Mae Craflwyn yn ganolfan i dîm prysur o wirfoddolwyr Gorllewin Eryri a Llyn. Mae yna lawer o gyfleoedd i chwi ymuno, o gynorthwyo’r wardeniaid gyda gwaith cadwriaethol i fod yn warden ar wersyllfa, o gynorthwyo mewn gweithgareddau i arddio a chadw golwg ar safleoedd arfordirol anghysbell -  mae 'na rywbeth at ddant pawb.

Os yn chwilio am rywbeth difyr a chyffrous a all wneud gwahaniaeth mewn cadwraeth, yr amgylchedd neu dreftadaeth y DU, beth bynnag yw eich diddordebau neu sgiliau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl, gweithio yng nghanol cefn gwlad Gorllewin Cymru.  Dychmygwch be fedrwch wneud.....

Mae cyfleoedd ar hyn o bryd yn cynnwys:

Gwirfoddoli i groesawu ymwelwyr i Gwt Gwylwyr y Glannau, Uwchmynydd:  Yn yr hen gwt Gwylwyr y Glannau mae arddangosfa sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr i’r ardal sy’n mwynhau clywed am hanes, chwedlau a bywyd gwyllt wrth fwynhau golygfeydd godidog o Ynys Enlli.

Porthmon/Garddwr:  Cwblhawyd prosiect adnewyddu Neuadd Craflwyn a’r adeiladau o’i gwmpas yn ystod 2005 a bellach mae’n ganolfan i lu o grwpiau preswyl a dyddiol, o briodasau i grwpiau o wirfoddolwyr, cyfarfodydd busnes a phartïon i ddathlu.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw’r gerddi a’r adeiladau.

 

Arolygwr Gwersyllfa:  I gasglu ffioedd campio, cynnal a chadw’r cyfleusterau mewn cyflwr glân a thaclus er mwyn galluogi'r  wersyllfa hedeg mewn modd effeithlon.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Sarah Worth ar 01766 510 127 neu

sarah.worth@nationaltrust.org.uk