Cartref HERYRI

Gweithgareddau

Pecynnau

Pwy 'di pwy

Ein Cymuned

 

Cyfeiriadau

Dogfennau

Cysylltwch â ni

Galeri

Cyswllt

Cartref Craflwyn

 

Cyfleusterau                                                                         Saesneg/English

 

Rydym yn ystyried datblygu ein seilwaith fel y gallwn gymryd grwpiau i mewn am breswyliad hirach.  Rydym wedi edrych ar nifer o ffyrdd i wneud hyn er mwyn lleihau ein hôl troed carbon ac rydym wedi dewis ailddefnyddio’r Beudy presennol fel cawodydd a lle i storio a’r hen floc toiled fel yr ardal goginio/storio bwyd.  Fe adeiledir y bloc toiled o’r newydd o ddefnyddiau naturiol o ffynonellau lleol.

 

Y Bloc Cawod

 

Wedi ei leoli yn yr hen Feudy fe fydd yna ddwy gawod a’r ddwy gyda mynediad i’r anabl.  Fe ddaw’r dwr ar gyfer y cawodydd o’r afon leol ac fe gaiff ei hidlo â thywod a cherameg i sicrhau ei fod  yn cyfarfod â safonau Iechyd Amgylcheddol.  Mae’r dull naturiol hwn o hidlo ag ôl troed carbon isel iawn.  Caiff y dwr ei wresogi gan losgwr coed effeithlon a bydd angen i’r bobl ifanc ar y cyrsiau preswyl ei lwytho.  Darperir trydan yn y bloc gan gymysgedd o bwer hydro, paneli solar a phwer pedal.

 

Y Gegin

 

Yr hen floc toiled oedd hwn pan oedd yna le gwersylla yma.  Byddwn yn tynnu unrhyw ddarnau o frisbloc a charreg nad yw’n garreg naturiol sy’n rhan o’r adeilad ar hyn o bryd ond fyddwn ni ddim yn ei wastraffu.  Yn hytrach, fe ddaw’n rhan o’r “to brown” lle bydd blodau gwyllt brodorol a gweiriau’n tyfu gan wneud iddo ymdoddi i’w amgylchoedd.  Fe ddarperir y trydan, dwr a gwres gan ddefnyddio’r un dulliau â’r bloc cawod. 

 

Bydd y rhan ar gyfer paratoi bwyd y tu mewn i’r adeilad ond mae’r ardal goginio y tu allan ac rydym yn defnyddio’r dulliau coginio mwyaf tanwydd-effeithlon a naturiol sy’n bod.  Fe fydd yna bopty pridd, stof roced, barbiciw a stof ‘wonder box’, syml gydag allyriadau isel.

 

Y Toiledau

 

Byddwn yn adeiladu’r rhain o ddim o goed o ffynonellau yn y fforestydd yn ein hardal.  Fe fydd yna 2 doiled compostio â chyrchiad i’r anabl a byddant yn troi ein gwastraff yn wrtaith diniwed ac fe fydd yna un wrinal bwrn gwellt sydd eto’n troi gwastraff yn rhywbeth defnyddiol.  Bydd y to’n debyg i’r to brown ar y gegin ond y gwahaniaeth yw bod hwn yn wyrdd; cysyniad tebyg ond y tro hwn defnyddir pridd yn hytrach na chraidd caled.



Ardal goginio

Toiledau
Toiledau

Cegin

Cegin