Cyfeiriadau i Craflwyn Saesneg/English
O Fetws-y-Coed
Cymerwch yr A5 tuag at Gapel Curig. Yng Nghapel Curig, trowch i’r chwith ar yr A4086 (Beddgelert ar yr arwydd) dalwch i fynd ar y ffordd hon.
Ger Gwesty Pen y Gwryd mae’r ffordd yn fforchio i’r chwith i’r A498, daliwch i fynd ar hyd y ffordd hon hyd yr ewch heibio Gwaith Copr Sygun.
Mae’r fynedfa I Craflwyn ar ochr dde'r ffordd. Mae Craflwyn oddeutu ¾ milltir o Feddgelert. Mae arwyddbost eglur ger y fynedfa. Parciwch yn y maes parcio ac fe fydd aelod o staff yn disgwyl amdanoch.
Pellter yn fras: 16 milltir(26km)
Amser teithio yn fras: 25munud
O Flaenau Ffestiniog
Dilynwch yr arwyddion i Benrhyndeudraeth. Ym Mhenrhyndeudraeth, trowch i’r dde ar hyd ffordd A4085(Beddgelert ar yr arwydd). Trowch i’r dde ar y gyffordd i ffordd A498 a gyrrwch drwy Feddgelert (dros y bont) a throwch i’r dde tuag at Gapel Curig. Lleolir Craflwyn oddeutu ¾ milltir o Feddgelert ar y chwith. Mae arwyddbost eglur ger y fynedfa.
Pellter yn fras: 17 milltir (27km)
Amser teithio yn fras: 25 munud
O Gaernarfon
Cymerwch yr A4085 tuag at Feddgelert. Ym Meddgelert daliwch i fynd ymlaen ar yr A498 i gyfeiriad Capel Curig. (Noder: Peidiwch â mynd dros y bont). Mae Craflwyn oddeutu ¾ milltir o Feddgelert ar y chwith. Mae arwyddbost eglur ger y fynedfa.
Pellter yn fras : 13 milltir(21km)
Amser teithio yn fras: 20 munud
|