Gweithgareddau

Cyfleusterau

Pecynnau

Pwy 'di pwy

Ein Cymuned  

Cyfeiriadau

Dogfennau

Cysylltwch â ni   

Galeri

Cyswllt

Cartref Craflwyn

 

HERYRI                                        Saesneg/English

Rydym yn fenter ieuenctid newydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri a’i nod yw maethu datblygiad personol a pharch tuag at yr amgylchedd drwy weithgareddau creadigol a chorfforol mewn lleoliad mynyddig.

Yng nghalon hyn i gyd mae stad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn a dyma ble y dowch o hyd i HeRYRI.

 

Ffeithiau am Eryri

"Mae Parc Cenedlaethol Eryri’n cwmpasu 823 milltir sgwâr (tua 10% o ehangdir Cymru) o gefn gwlad fynyddig eithriadol hardd yng ngogledd Cymru.

Mae 25,682 o bobl yn byw yn Eryri (ynghyd â 100,000 o ddefaid).  Pe bai’r babis i gyd ar liniau byddai pawb yn ffitio i mewn i haen isaf Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae yna 1487 milltir o lwybrau cyhoeddus yn Eryri a phe baech yn eu gosod ben wrth ben fe fyddant yn cyrraedd ffin Rwsia.

Fe dreulir tua 10 miliwn o ddyddiau ymwelwyr yn Eryri bob blwyddyn." Dyfynnir Parc Cenedlaethol Eryri

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am oddeutu 23 milltir sgwâr (neu 7666 o gaeau pêl-droed) yn Eryri yn cynnwys 11 o fynyddoedd yr ardal a milltiroedd o lwybrau, arfordiroedd a choetir.